|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 - 08:50 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Jocelyn Davies William Graham Jane Hutt |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Peter Greening, Llywodraeth Cymru Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd David Melding, Ddirprwy Lywydd
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi.
3. Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Cyhoeddodd Arweinydd y Tŷ y bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ynghylch Dulliau Llywodraeth Cymru i Sbarduno’r Economi ddydd Mercher.
Ddydd Mawrth, bydd y cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes na fyddai’r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Trefnodd y Pwyllgor Busnes amser ar gyfer yr eitem a ganlyn:
Dydd Mawrth 18 Hydref 2011
· Dadl fer a ohiriwyd ers 5 Hydref 2011 – Dafydd Elis-Thomas: Diwygio Amodau Deiliadaeth y Sector Rhentu Preifat (30 munud)
Cytunodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.
3(iv) Dadleuon gan Aelodau unigol
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion heb ddyddiad trafod a gyflwynwyd gan Aelodau unigol gan ddewis y cynnig a ganlyn i’w drafod ddydd Mercher 19 Hydref 2011:
NNDM4825 Christine Chapman (Cwm Cynon), Julie Morgan (Gogledd Caerdydd), Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru), Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i’r Cynulliad ei hystyried a fyddai’n cael gwared ar y gallu i ddefnyddio ‘cosb gyfreithlon’ fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod ar blentyn.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y broses o ddewis a blaenoriaethu cynigion yn y dyfodol, o ystyried faint o ddiddordeb a oedd gan Aelodau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau ac i drafod y mater eto ar ôl hanner tymor.
Unrhyw Fusnes Arall
Gofynnodd Peter Black am ganllawiau i sut mae’r Llywydd yn penderfynu a ddylid derbyn cwestiwn brys ai peidio. Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes nad oedd gofyn iddi roi rheswm dros ei phenderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cwestiwn brys ond nododd fod angen i gwestiynau fod yn rhai brys ac o bwys i’r cyhoedd.